Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Adroddiad ar Orchymyn y Pwyllgor Cyngor ar Sylweddau Peryglus (Dileu) 2012

         

 

 

Cefndir

 

1.       Ar 28 Chwefror 2012, rhoddodd Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy hysbysiad o gynnig fel a ganlyn -

 

“Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cytuno, yn unol ag

adran 9(6) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011, bod yr Ysgrifennydd

Gwladol yn gwneud Gorchymyn y Pwyllgor Cyngor ar Sylweddau

Peryglus (Dileu) 2012, yn unol â’r drafft a osodwyd yn y Swyddfa

Gyflwyno ar 28 Chwefror 2012.”

 

Yn unol â’r weithdrefn a gytunwyd gan y Pwyllgor Busnes, cyfeiriwyd y Memorandwm at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i graffu arno cyn cael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn. 

 

Deddf Cyrff Cyhoeddus 2011

 

Deddf Cyrff Cyhoeddus 2011

 

2.       Cafodd Deddf Cyrff Cyhoeddus 2011 Gydsyniad Brenhinol ar 14 Rhagfyr 2011. Daeth darpariaethau sy’n ymwneud ag ymgynghori a materion cyffredinol fel dehongli i rym ar ddyddiad y Cydsyniad Brenhinol a daeth bron pob un o’r darpariaethau a oedd yn weddill (gan gynnwys y rhai sy’n berthnasol i’r Gorchymyn hwn) i rym ymhen deufis wedi’r dyddiad hwnnw. 

 

3.       Mae’r Ddeddf yn cynnwys pwerau i ddiddymu ac uno cyrff cyhoeddus drwy orchymyn, ynghyd â throsglwyddo eu swyddogaethau. Yn gyffredinol, caiff y swyddogaethau hynny eu rhoi i’r Ysgrifennydd Gwladol, ond mae adrannau 13-19 yn rhoi pwerau tebyg i Weinidogion Cymru, yn bennaf mewn perthynas â chyrff amgylcheddol. Mae’r pwerau hefyd yn debyg i’r rhai a geir yn adran 28 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 mewn perthynas â’r cyrff a nodir yn Atodlen 12 i’r Ddeddf honno. Yr un pwerau a ddefnyddiwyd, er enghraifft, i drosglwyddo swyddogaethau Awdurdod Datblygu Cymru i Lywodraeth Cymru drwy orchymyn.

 

4.       Mae gan lawer o’r cyrff a all fod yn destun gorchmynion a wneir o dan y Ddeddf swyddogaethau trawsffiniol, pa un a ydynt yn gyrff Cymru a Lloegr, yn gyrff Prydain Fawr neu’n gyrff y Deyrnas Unedig. Mae Adran 9 o’r Ddeddf yn cynnwys darpariaethau penodol mewn perthynas â chydsyniad deddfwrfeydd a gweinyddiaethau datganoledig. Mae’r darpariaethau sy’n berthnasol i Gymru yn unig i’w cael yn isadrannau (6) a (7) -

 

“(6) An order under sections 1 to 5 requires the consent of the  National Assembly for Wales to make provision which would be within the legislative competence of the Assembly if it were contained in an Act of the Assembly.

 

(7) An order under sections 1 to 5 requires the consent of the Welsh Ministers to make provision not falling within subsection (6)—

(a) which modifies the functions of the Welsh Ministers, the First Minister for Wales or the Counsel General to the Welsh Assembly Government, or

(b) which could be made by any of those persons.”

 

 

Y Gorchymyn

 

5.       Fel rhan o’i adolygiad o gyrff cyhoeddus, penderfynodd Llywodraeth y DU ddileu’r Pwyllgor Cyngor ar Sylweddau Peryglus. Mae’r Ddogfen Esboniadol a osodwyd i ategu’r Gorchymyn yn San Steffan yn datgan:

 

“The successor body will operate within an enhanced framework for scientific bodies in Defra, and with new terms of reference which reflect changes in the regulatory landscape for hazardous substances since the ACHS was established twenty years ago. The successor body will continue to provide expert, impartial and independent advice to Ministers and others.”

 

Felly bydd y gwaith yn parhau i gael ei wneud, ond gan bwyllgor gwyddonol arbenigol yn hytrach na chorff cyhoeddus anadrannol.

 

6.       Caiff gwaith y Pwyllgor ei ddisgrifio ar ei dudalennau gwe (o fewn gwefan Defra) fel a ganlyn:

 

1. To advise the Secretary of State for the Environment, Transport and Regions, the Minister of the Environment, Northern Ireland, the Scottish Ministers, and the First Minister, National Assembly for Wales and other Ministers (hereafter collectively known as “the Ministers”) as appropriate on the exercise of the power to make Regulations under Section 140 of the Environmental Protection Act 1990 to prohibit or restrict the importation, use, supply or storage of specified substances or articles including nanomaterials

 

2.To advise the Ministers on the exercise of the power to make Regulations under Section 142 to obtain information about potentially hazardous substances including nanomaterials

 

3.To advise the UK Chemicals Stakeholder Forum and other bodies as appropriate on criteria, prioritisation and risk assessment of potentially harmful substances including nanomaterials

 

4.To advise the Ministers, the UK Chemicals Stakeholder Forum and other bodies as appropriate on research needs and the development of relevant indicators.

 

Bydd y Pwyllgor newydd yn parhau i roi cyngor gwyddonol arbenigol i Weinidogion ledled y Deyrnas Unedig.

 

Y Memorandwm Cydsyniad

 

7.       Nid Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol o fewn ystyr Rheol Sefydlog 30 yw hwn, gan nad yw’n cyfeirio at ddarpariaethau a gynhwysir mewn Bil sydd gerbron Senedd y DU. Er hynny, mae’n debyg i hynny, gan ei fod yn cynnwys darpariaethau sy’n diwygio deddfwriaeth sylfaenol sy’n gymwys i Gymru mewn perthynas â materion sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol.

 

8.       Fel y caiff ei esbonio ym mharagraff 4 uchod, rôl y Cynulliad o dan y Ddeddf yw cydsynio (neu beidio) i ddarpariaeth a fyddai o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad pe bai wedi’i gynnwys mewn Deddf Cynulliad. Felly mae’n bwysig canfod cwmpas perthnasol y cymhwysedd hwnnw.

 

9.       Fel y mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru yn esbonio ym mharagraff 12, mae gan y Cynulliad gymhwysedd deddfwriaethol perthnasol o dan bwnc 6 (Yr Amgylchedd) yn Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ar gyfer “Gwarchodaeth amgylcheddol, gan gynnwys … sylweddau peryglus.”  Felly mae angen cydsyniad y Cynulliad o dan adran 9(6) o’r Ddeddf Cyrff Cyhoeddus.  

 

10.     Mae’r Memorandwm cydsyniad yn gryno, ond yn glir. Mae paragraff 14 yn esbonio bod Gweinidogion Cymru yn fodlon ar y trefniadau newydd sy’n cychwyn y Gorchymyn. Ni nodwyd unrhyw faterion fel rhai sydd angen esboniad pellach.

 

Casgliad

 

11.     Mae’r Pwyllgor yn fodlon ar y wybodaeth sydd ar gael ac yn adrodd i’r Cynulliad nad yw wedi dod ar draws unrhyw wrthwynebiad i wneud y Gorchymyn.

 

 

 

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol           Mawrth 2012